Mae cyfres o bedwar tapestri wedi’u creu gan Ymchwiliad Covid-19 y DU, yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol a sefydlwyd i archwilio ymateb y DU i bandemig Covid-19 a’i effaith, i helpu i sicrhau bod pobl a ddioddefodd galedi a cholled yn parhau i fod wrth wraidd yr hyn a wnawn. Maent yn coffáu profiadau ac emosiynau’r cyfnod hwnnw. O golled, aberth ac unigedd i obaith a dewrder. Mae'r tapestri yn plethu'r profiadau hyn at ei gilydd fel y gallwn fyfyrio a chofio.

Mae tapestri coffa Ymchwiliad Covid-19 y DU yn un o nifer gynyddol o gerfluniau, gosodiadau creadigol, a mentrau cymunedol sy'n cael eu datblygu wrth i'r wlad (a'r byd) ddod i delerau ag anferthedd y pandemig a'i effaith ar fywydau miliynau dirifedi o bobl. Mae gan bob un o'r prosiectau hyn werth mawr ac mae'n cynnig persbectif unigryw - gan greu tirwedd goffa gyfoethog a chymhleth.

Torcalon

Ar ôl clywed y straeon, daeth y cysyniad o dorcalon i'r amlwg. Dywedwyd eu bod "yn crio dagrau o galonnau toredig, yn bwrw glaw arnaf". Mae gan gylch cell Covid gylch o galonnau. Mae cefndir tartan yn cyfeirio at y llu o liwiau hardd yn ucheldiroedd yr Alban, yr edafedd niferus sy'n rhan o straeon niferus Covid a'i effaith. Mae'r lliwiau glas tawel yn cynrychioli tristwch a meddyliau o'r rhai a gollwyd. Crëwyd gan Andrew Crummy, yn dilyn sgyrsiau ag aelodau o Scottish Covid Bereaved.

Crëwyd gan Andrew Crummy, yn dilyn sgyrsiau ag aelodau o Scottish Covid Bereaved.

Explore tapestry

Cysur Bach

Mae’r gwaith hwn yn archwilio rhai o’r emosiynau a’r profiadau sy’n gysylltiedig â Covid Hir. Mae’n fynegiant o’r gadawiad a’r dadleoli a brofir gan gynifer, ac yn ymgais i gyfleu hyn trwy ystumiau a marciau tra’n dal i gadw ymdeimlad cynnil o obaith. Dehongliad un artist o’r pwnc ydyw ac nid yw’n gynrychioliad cyffredinol o’r cyflwr cymhleth a gwanychol hwn.

Crëwyd gan Daniel Freaker, yn dilyn sgyrsiau ag aelodau o Long Covid SOS, Long Covid Support, Long Covid Kids a Long Covid Nurses and Midwives.

Explore tapestry

Dallineb y Diamddiffyn

Mae'r gwaith hwn yn ymwneud â'r dadrymuso a cholli rhyddid a brofir gan gleifion a'u perthnasau mewn cartrefi gofal. Yn methu â gweld ei gilydd ac fel y mae unigedd yn lladd y rhai sy'n agored i niwed.

Crëwyd gan Catherine Chinatree, yn dilyn sgyrsiau ag aelodau Care Campaign for the Vulnerable.

Explore tapestry

Dy Gariad sy'n Goruchafu

Nos, golau, golwg a cholled. Mae adref yn dod yn dŷ, yn declyn, yn ffin ar gyfathrebu a gofalu. Pawb gyda'i gilydd ond i gyd yn unig.

Crëwyd gan Marie Jones, yn dilyn sgyrsiau gyda pherson mewn profedigaeth o Gymru.

Explore tapestry