Dallineb y Diamddiffyn
Mae'r gwaith hwn yn ymwneud â'r dadrymuso a cholli rhyddid a brofir gan gleifion a'u perthnasau mewn cartrefi gofal. Yn methu â gweld ei gilydd ac fel y mae unigedd yn lladd y rhai sy'n agored i niwed.
Crëwyd gan Catherine Chinatree, yn dilyn sgyrsiau ag aelodau Care Campaign for the Vulnerable.
Mae'r ddelwedd yn las-wyrdd golau a grid o linellau fertigol a llorweddol brown wedi'u tynnu'n fras. Yn y blaendir mae pen ac ysgwyddau menyw â gwallt brown tywyll. Mae ei cheg ar agor, fel pe bai'n gadael cri o dirboen ac anobaith allan. Mae ei hwyneb yn ddirdynedig. Mae ei gwallt yn troelli i fyny i'r gornel chwith uchaf lle mae'n dod yn chwyrlïad coch o gwmpas ail ffigur llai, o hen wraig. Mae hi'n eistedd ar ei phen ei hun, yn edrych i'r dde, a'i dwylo ynghroes yn ei chôl. Yn y pen draw mae'r chwyrlïad coch yn dod yn fwgwd llygaid mewn cyfeiriad at deitl y darn.
Mae'r gwaith hwn yn ymwneud â'r dadrymuso a cholli rhyddid a brofir gan gleifion a'u perthnasau mewn cartrefi gofal. Yn methu â gweld ei gilydd ac fel y mae unigedd yn lladd y rhai sy'n agored i niwed.
Cafodd ei greu gan Catherine Chinatree, yn dilyn sgyrsiau ag aelodau Care Campaign for the Vulnerable. Y teitl yw "Llygaid Wedi'u Gorfodi i Gau".
Darganfyddwch y manylion
Cliciwch ar fân-lun o'r tapestri i ddatgelu rhagor o fanylion.



Sgrechian i mewn i'r gwagle
"Mae'r prif bwnc yn adlewyrchu'r ing a'r boen a achosir i'r perthnasau trwy'r emosiwn o sgrechian. Disgrifiodd un aelod o’r grŵp ei phrofiad byw o’r sefyllfa fel mynd allan i gae i sgrechian ar ddim byd. Siaradodd y grŵp am sut, yn amlach na pheidio, y byddai’r merched yn lleisio’u galar trwy sgrechian / crio, tra bod y perthnasau gwrywaidd yn tueddu i fod yn dawelach ac yn fwy encilgar, ond heb fod yn llai anobeithiol."
Rhyddid ac urddas
"Thema arall oedd y dicter a cholli rhyddid, a gynrychiolir gan fethu â gweld, a'r datgysylltu canlyniadol oddi wrth anwyliaid. Mae llygaid y ffigwr yn y gornel chwith uchaf, sy'n cynrychioli'r perthynas yn y cartref gofal, wedi'u cuddio i gyfleu'r ymdeimlad hwn o ddiffyg pŵer, a chael gwared ag urddas."
Y tu ôl i'r rhwystr
"Mae'r effaith grid hon mewn ymateb i'r rhwystrau trosiadol a godwyd wrth ymweld; sut na allent weld aelodau'r teulu yn iawn ac nad oeddent yn gwybod yn llawn beth oedd yn digwydd. Mae hefyd yn siarad â'r rhwystrau corfforol - siarad â pherthnasau trwy ffensys, ffenestri a gwydr wedi'i atgyfnerthu - a oedd ond yn ychwanegu at y trallod a'r diymadferthedd."
Beth mae'r panel hwn yn ei gynrychioli i ni
Jane Freeman, Care Campaign for the VulnerableCefais fy llethu gan emosiwn pan welais y darn am y tro cyntaf, ac rwy’n hyderus y bydd hyn yn cynhyrfu sgwrs. Roedd clywed profiadau pawb yn ddirdynnol, ond mewn ffordd ryfedd yn gwneud i mi deimlo’n gysylltiedig, yn llai ynysig ac yn llai unig - a gobeithio bod hyn yn wir i eraill.
Amanda Hunter, Care Campaign for the VulnerableI mi, mae gwaith celf Catherine yn bwerus iawn, ac er na allai unrhyw waith celf fyth gyfleu dyfnder yr ing, y boen a’r dioddefaint a brofwyd, na’r tristwch, anobaith, a dicter a deimlais i a miloedd o’n hanwyliaid a’n teuluoedd, mae’n cyfleu hanfod rhai o'r emosiynau hynny. Mae wedi bod yn ddirdynnol clywed profiadau pawb, ond yn yr un modd fe wnaeth i mi deimlo ymdeimlad o undod a phenderfyniad i barhau i frwydro dros gyfiawnder. Nid yw'n ddigon i'n sgrech dawel gael ei 'gweld'; mae'n rhaid ei chlywed, a gweithredu arni.


Gwybodaeth am yr arlunydd
Catherine Chinatree
Mae Catherine Chinatree yn artist amlddisgyblaethol sy'n byw ym Margate sy'n tynnu ar ei threftadaeth Gymreig, Caribïaidd a Gwyddelig i archwilio syniad cynrychioladol o "realiti" a rennir trwy ei gwaith - â ffocws ar hunaniaeth, deuoliaeth a hylifedd diwylliannol.
Astudiodd hi yn Ngholeg Celf Wimbledon, dyfarnwyd Ysgoloriaeth deithio Celf Ferdynand Zweig iddi, a sefydlodd brosiect ymgysylltiad cydweithredol rhwng y DU a Havana, Cuba. Mae hi wedi cael ei rhoi ar restr fer Gwobr Gelf Mercury Music, Nasty Woman NYC a Gwobr Gelf Graddedigion Newydd The Griffin x Elephant.