Amdano

Mae nifer o ymchwiliadau cyhoeddus wedi coffáu'r rhai a ddioddefodd ac a fu farw o ganlyniad i'r drasiedi y maent yn ymchwilio iddi. Nod tapestri Ymchwiliad Covid-19 y DU – o’r enw ‘Y Dyddiau Hyn’ – yw dal profiadau ac emosiynau pobl ledled y DU yn ystod y pandemig. Wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio sicrhau bod y rhai a brofodd galedi a cholled yn parhau i fod wrth galon trafodion yr Ymchwiliad.

Mae 'Y Dyddiau Hyn' yn cael ei guradu gan Ekow Eshun, Cadeirydd Grŵp Comisiynu'r Pedwerydd Plinth a chyn Gyfarwyddwr Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes. Mae gwehyddion o Fryste, Dash a Miller, wedi dod â’r gwaith yn fyw gan ddefnyddio technegau gwehyddu traddodiadol, ac edafedd a gafwyd o bedair gwlad y DU. 

Mae pob panel yn seiliedig ar waith celf a grëwyd gan arlunydd gwahanol, yn dilyn sgyrsiau ag unigolion a chymunedau yr effeithiwyd arnynt mewn gwahanol ffyrdd gan y pandemig. Cafodd y paneli tapestri cyntaf eu dadorchuddio yng Nghanolfan Clywedol Llundain yr Ymchwiliad, yn Dorland House yn Paddington, a byddant yn cael eu harddangos mewn gwahanol leoliadau ledled y DU yn ystod gwrandawiadau rhanbarthol. Bydd rhagor o baneli yn cael eu hychwanegu dros amser, gan ganiatáu i'r tapestri adlewyrchu maint ac effaith y pandemig ar wahanol gymunedau.

Mae tapestri coffaol Ymchwiliad Covid-19 y DU yn un o nifer cynyddol o gerfluniau, gosodiadau creadigol, a mentrau cymunedol sy’n cael eu datblygu wrth i’r wlad (a’r byd) ddod i delerau ag anferthedd y pandemig a’i effaith ar fywydau miliynau o bobl. Mae gan bob un o’r prosiectau hyn werth mawr ac yn cynnig persbectif unigryw – gan greu tirwedd goffaol gyfoethog a chymhleth.