Torcalon

Ar ôl clywed y straeon, daeth y cysyniad o dorcalon i'r amlwg. Dywedwyd eu bod "yn crio dagrau o galonnau toredig, yn bwrw glaw arnaf". Mae gan gylch cell Covid gylch o galonnau. Mae cefndir tartan yn cyfeirio at y llu o liwiau hardd yn ucheldiroedd yr Alban, yr edafedd niferus sy'n rhan o straeon niferus Covid a'i effaith. Mae'r lliwiau glas tawel yn cynrychioli tristwch a meddyliau o'r rhai a gollwyd. Crëwyd gan Andrew Crummy, yn dilyn sgyrsiau ag aelodau o Scottish Covid Bereaved.

Crëwyd gan Andrew Crummy, yn dilyn sgyrsiau ag aelodau o Scottish Covid Bereaved.

Mae'r ddelwedd yn cynnwys calon las-borffor, wedi'i thorri'n ddwy. Mae dau ddarn y galon hefyd yn edrych fel wynebau, yn benisel mewn tristwch. Mae calonnau bach glas yn rhaeadru i lawr o'r ddau wyneb fel dagrau, yr holl ffordd i lawr i waelod y ddelwedd. O gwmpas y galon sydd wedi'i thorri mae cylch mawr, wedi'i amgylchynu gan galonnau bach coch. Mae llinell hefyd o 3 calon fach goch ar frig y ddelwedd, a dwy res o 3 calon goch ar ran is y ddelwedd. Tartan yw'r cefndir, ag amrediad o las a phorffor meddal.

Gan ddisgrifio'r darn, dywedodd yr arlunydd:

"Ar ôl clywed y straeon, daeth y cysyniad o dorcalon i'r amlwg. Dywedwyd eu bod 'yn crïo dagrau o galonnau toredig, yn bwrw glaw i lawr arnaf'. Mae gan y cylch cell Covid gylch o galonnau. Mae'r cefndir tartan yn cyfeirio at y llu o liwiau hardd yn ucheldiroedd yr Alban, yr edafedd niferus sy'n rhan o straeon niferus Covid a'i effaith. Mae'r lliwiau glas tawel yn cynrychioli tristwch a meddyliau am y rheini a gollwyd."

Crëwyd "Calonnau Wedi'u Torri" gan Andrew Crummy, yn dilyn sgyrsiau ag aelodau o Scottish Covid Bereaved.

Darganfyddwch y manylion

Cliciwch ar fân-lun o'r tapestri i ddatgelu rhagor o fanylion.

Zoomed section of the Broken Hearts tapestry panel which highlights a the heart, split down the middle
Zoomed section of the Broken Hearts tapestry panel which highlights small hearts, falling like tears
Zoomed section of the Broken Hearts tapestry panel, showing a section of tartan

Y galon wedi'i thorri

"Roedd sawl ffurf ar dorcalon Covid - gwŷr a gwragedd, mamau a thadau, brodyr a chwiorydd, meibion a merched, neiniau a theidiau, ffrindiau. Mae’r galon hon wedi hollti i lawr y canol, ac mae tristwch y ddau wyneb a ddarlunnir, yn siarad â’r torcalon a deimlir gan gynifer o deuluoedd yn yr Alban a ledled y DU – ac a ddisgrifiwyd ag emosiwn mawr gan bob aelod o’r grŵp."

Dagrau'n llifo i lawr

"Rwy'n cofio sut y soniodd un o'r unigolion mewn profedigaeth am 'wylo dagrau calonnau wedi'u torri, yn bwrw glaw arnaf'. Glynodd y ddelwedd bwerus hon â mi, a daeth yn ddylanwadol yn y pen draw yng nghynllun terfynol y panel tapestri; y dagrau gwelw yn ymgymysgu â'r tartan a chylch y calonnau cochion."

Tartan o dristwch

"Mae'r cefndir tartan yn cyfeirio at y llu o liwiau hardd yn Ucheldiroedd yr Alban, yr edafedd niferus sy'n rhan o straeon niferus Covid a'i effaith. Mae'r lliwiau glas tawel yn cynrychioli tristwch a meddyliau am y rheini a gollwyd."

Beth mae'r panel hwn yn ei gynrychioli i ni

Collais fy Nhad ym mis Chwefror 2021 i Covid-19. Nid oes dim yn eich paratoi ar gyfer colli rhiant annwyl yn enwedig, pan oedd y byd fel yr oeddwn yn ei adnabod yn anadnabyddadwy. Mae’r tapestri yn rhywbeth roeddwn i’n teimlo’n freintiedig iawn i’w wneud ac rwy’n gobeithio y bydd y rhai sy’n ei weld mewn blynyddoedd i ddod yn deall pam mae'n bwysig na ddylid byth anghofio ein hanwyliaid a gollwyd i Covid-19.

Delia Bryce, Scottish Covid Bereaved

Rwy'n meddwl bod Andrew wedi llwyddo i ddal y teimlad o dorcalon, tristwch a gwacter rydym ni'n bersonol yn ei deimlo oherwydd colli ein hanwyliaid. Mae'r cefndir tartan yn cysylltu’r tapestri â Scottish Covid Bereaved ac mae’r siapiau calon yn cynrychioli dagrau cenedl.

Peter McMahon, Scottish Covid Bereaved
Headshot image of Andrew Crummy
Headshot image of Andrew Crummy

Gwybodaeth am yr arlunydd

Andrew Crummy

Cafodd Andrew Crummy ei eni yng Nghaeredin ond mae'n byw nawr yn Nwyrain Lothian. Hyfforddodd fel darlunydd yng Ngholeg Celf Duncan of Jordanstone yn Dundee cyn derbyn MA mewn Dylunio o Ysgol Gelf Glasgow. Mae'n eiriolwr gwych dros gelf yn y gymuned ac mae wedi cymryd rhan mewn llawer o brosiectau murluniau o gwmpas y byd yn ogystal ag amrediad o gyhoeddiadau llyfrau, digwyddiadau amlgyfrwng, gwyliau a rhaglenni addysgol.

Ers 2013 mae wedi cymryd rhan mewn 18 tapestri yn fwy diweddar gan gynnwys, The Battle of Prestonpans Tapestry, The Great Tapestry of Scotland a'r Scottish Diaspora tapestry.

Ewch i wefan Andrew Crummy

Torcalon: Creu'r gwaith celf

Mae Andrew yn siarad am y broses o weithio gydag aelodau o Scottish Covid Bereaved i greu ei ddyluniad panel.